Skip to content

Meddalwedd ac offer docker i weithio gyda Marian NMT | Software and tools for working with Marian NMT

License

Notifications You must be signed in to change notification settings

techiaith/docker-marian-nmt

Repository files navigation

Offer hyfforddi Marian NMT a gwasanaeth API

Read in English

Mae'r project hwn yn cynnwys popeth sydd ei hangen i redeg peiriant cyfieithu peirianyddol niwral Marian NMT lleol eich hunan.Mae'r feddalwedd i gyd yn god agored ac ar gael o dan delerau'r drwydded MIT.

I redeg cyfieithu peirianyddol lleol yn llwyddiannus, byddwch angen cyfrifiadur â cherdyn graffeg NVIDIA yn ogystal â phecynnau meddalwedd fel Docker a Python wedi'u osod yn barod.

Mae'r peiriant yn defnyddio modelau cyfieithu sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig gan yr Uned Technolegau Iaith i gyfieithu o Saesneg i'r Gymraeg.

Darparir dwy ddull o ddefnyddio'r cyfieithu peirianyddol gan y project. Y gyntaf, drwy wasanaeth API lleol, sydd yn galluogi integreiddio i offer cyfieithu (os yw'r meddalwedd yn caniatau). Yr ail, drwy dudalen we syml sydd yn rhedeg yn gyhoeddus a cyfieithu.techiaith.cymru.

Cychwyn arni: rhedeg gwasanaeth API cyfieithu peirianyddol lleol eich hunain

Yr un prif ofynion sydd eu hangen i bob math o gyfrifiadur. Ond mae amrywiadau bychain yn ôl ba fath o gyfrifiadur Windows 10 rydych yn bwriadu defnyddio.

Gofynion:

Camau gosod:

  1. Crëwch ffolder newydd

  2. Lawrlwythwch y sgript gosod a chychwyn arni a'i chadw o fewn y ffolder gwag newydd

  3. Agorwch raglen gorchymyn llinell (e.e 'Terminal, cmdneuPowershell`) gyda breintiau gweinyddwr (h.y. dewiswch 'Rhedeg fel Gweinyddwr'/'Run as Administrator'). Ewch i'r ffolder newydd lle cadwyd y sgript gosod. Yna, weithredwch drwy :

python techiaith_docker_marian_nmt.py --install --run

Cymorth

Rhedwch y gorchymyn canlynol o'ch raglen gorchymyn llinell i weld yr holl opsiynau sydd ar gael.

python python techiaith_docker_marian_nmt.py --help

Profi

Ar ol rhedeg y sgript uwchod, ewch i'r dolen:

http://127.0.0.1:8000/api/docs

Wrth gwrthio'r botwn Try it out, dangosir testun JSON mewn bwlch:

{
  "text": "I have a headache.",
  "source_language": "en",
  "target_language": "cy"
}

Gwthiwch y botwm Execute; Dangosir y canlyniadau o dan y ffurflen.

Mae modd arbrofi gyda thestunau Saesneg eraill wrth newid y frawddeg 'I have a headache' yn y cod JSON.

Sylwch fod y gorchymyn curl i gynhyrchu'r cais enghreifftiol yn cael ei arddangos yn y ffurflen. Gallwch gopïo a gludo hwn i'ch llinell orchymyn er mwyn arbrofi ag ef.

Diolch

Diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r gwaith hwn fel rhan o broject Technoleg Cymraeg 2021-22.

Mae'r meddalwedd yma wedi roi yw gael am rhydd o dan trwydded MIT license.